Mon. Aug 19th, 2019

Pam goddef teyrngarwch pleidiau Prydeinig Cymru tuag at wlad arall?

Y Cynulliad Cenedlaethol.Mae’r cloc yn tician tuag at 2021, a chyfle hanesyddol i docio crib y Pleidiau Prydeinig

The National Assembly. The clock is ticking towards 2021 and a historic opportunity to send the British political parties here packing


(Erthygl Gymraeg yw hon. English language summation below)

YR wythnos hon, cafwyd un o’r enghreifftiau amlycaf eto yn dangos ble’n union mae teyrngarwch y pleidiau Prydeining yn ein Cynulliad Cenedlaethol.

Gwelwyd mewn pleidlais dyngedfennol yn y Cynulliad mai San Steffan sy’n cael teyrngarwch y pleidiau hyn-nid y sefydliad a greuwyd i warchod buddiannau Cymru, nac ychwaith y trethdalwyr Cymreig sy’n talu cyflogau eu cynrychiolwyr yno.

0 40 pleidlais i 8 yn Y Cynulliad ddydd Mawrth,  pleidleisiodd pleidiau Llafur, Ceidwadwyr, ac UKIP, o blaid diddymu’r Ddeddf Parhad: deddf a fyddai wedi sicrhau mai i Gymru y byddai’r pwerau yn y meysydd datganoledig sy’n dychwelyd i Brydain yn dod wedi gadael Yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd Mawrth 2019.

A hynny er iddyn nhw gefnogi’r mesur dan sylw wedi i hwnnw gael ei gyflwyno gan Blaid Cymru gerbron Y Cynulliad ym mis Mawrth eleni!

Bellach, mae’r pleidiau Prydeinig hyn wedi cyflwyno 24 o feysydd polisi Cymreig ar blat i Lywodraeth San Steffan, all wneud fel fyd fynnan nhw gyda hwy, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu hynny.Ac fe fydd y pwerau hyn yn aros yn San Steffan am 7 mlynedd o leiaf, fel rhan o’r Ddeddf Ymddihatru o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r “Stockholm Syndrome”  yn disgrifio’r cyflwr pan fo person sy’n dioddef camdriniaeth enbyd dros amser maith yn mynnu glynu wrth ei erlidiwr er y cwbl sydd wedi digwydd iddo/iddi. Gellid dadlau bod y cyflwr hwn yn disgrifio cyflwr seicolegol y Cymry yn eu perthynas gyda’r brawd mawr drws nesaf i’r dim.

Ac mae’r cyflwr hwn i’w weld ar waith ymhlith y pleidiau Prydeinig yma yn sicr. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP obsesiwn bisar sy’n ymylu ar fod yn droeedig, ynghylch grym a statws a mawredd honedig San Steffan.Mae’n hawdd gweld ar un ystyr pam y bydden nhw’n rhoi buddiannau San Steffan o flaen Cymru pob tro. Ond beth am y Blaid Lafur Gymreig? Pam y “capitulation” llwyr hyn o’u rhan nhw dim ond misoedd yn unig wedi iddyn nhw bleidleisio dros y Ddeddf Parhad?

Clywson Carwyn Jones a Mark Drakeford yntau yn ceisio cyfiawnhau’r newid barn syfrdanol hwn drwy son am y glo man problemus oedd wedi dod i’r wyneb yn y cyfamser ( pethau megis labeli bwyd a chynhyrchion bwyd ac ati)  a’u bod wedi’u perswadio bod rhaid sicrhau cysondeb llwyr rhwng y rhain er mwyn hwyluso masnach di-rwystr rhwng Cymru a  Lloegr ar gyfer y farchnad fewnol Brydeinig newydd.

Ond o gofio am ddirmyg traddodiadol San Steffan tuag at Gymru, o gofio’r ergydion diweddar dirifedi- gwrthod cefnogi Morlyn Abertawe, gwrthod trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, sylwadau un o brif weindogion y Llywodraeth y dylai’r Cymry fod yn ddiolchgar am “largesse” Lloegr: mae’n ymddangos yn anghredadwy bod Llywodraeth Cymru yn gallu ildio’r grymoedd hyn iddyn nhw mor hawdd. A gwneud hynny trwy ddiddymu deddf a gafodd ei basio ganddyn nhw ddim ond misoedd ynghynt.

Mae hyd yn oed yn fwy anghredadwy y bydden nhw am wneud hynny o gofio’r traed moch llwyr  sy’n mynd rhagddo yn San Steffan ers 2016- catalog di-ddiwedd o fethiannau, diffyg cynllunio, diffyg trefn, cweryla mewnol a chynllwynio gwleidyddol  a phersonol ar draul popeth arall yn y ddwy brif blaid yno fel ei gilydd.

Ond be sy’n rhaid  ei gofio o hyd ydi mai buddiannau’r Blaid Lafur nid buddiannau Cymru fel gwlad sydd wastad yn dod gyntaf i’r Blaid Lafur Gymreig.

Y caswir ydi bod Llafur Cymru wedi ildio ar y grymoedd hyn ar orchymyn HQ Llafur yn Lloegr, sy’n cadw rheolaeth haearnaidd dros lywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae Jeremy Corbyn a’i fryd ar etholiad buan ac yn breuddwydio am ail-sefydlu math o “Command State Economy”‘ sy’n perthyn i’r gorffennol pell  er mwyn rheoli Prydain gyfan o Lundain unwaith yn rhagor. Doedd fiw i Gymru dynnu’n groes mewn unrhyw fodd rhag tarfu ar gynlluniau yr arweinydd mawr .

Dydi Ein GWLAD ddim yn cytuno gyda Phlaid Cymru ar lawer o bethau. Dydan ni ddim yn credu mai ymlyniad at sosialaeth wnaiff greu’r wlad lewyrchus a ffynniannus yr ydym oll am ei gweld yma. Dydan ni ddim yn hoff o’r elfen dra-awdurdodol hyn sy’n bodoli o fewn y Blaid a’u pwyslais di-ddiwedd ar gywirdeb gwleidyddol a’u hawydd i fygu barn wahanol ar bethau.Ac mae’n wir i ddweud ein bod yn eu gweld nhw bellach fel rhan o’r sefydliad blinedig lawr ym Mae Caerdydd.

Ond pan welwn ni Plaid Cymru yn sefyll dros y buddiant cenedlaethol, byddwn yn eu canmol ac yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw. Ac yn sicr, yn yr achos hwn, buddianau Cymru a’i phobol oedd yn eu gyrru wrth lunio’r Ddeddf Barhad, ac wrth geisio amddiffyn y ddeddf honno yn y Cynulliad yr wythnos hon.

Erbyn etholiad  nesaf y Cynulliad yn 2021, bydd rhaid i genedlaetholwyr a charedigion yr achos cenedlaethol roi’r ddihareb Gymreig honno “Os na bydd gryf, bydd gyfrwys” wrth galon eu holl weithrediadau.

Bydd rhaid wrth gyfrwystra a chydweithio eang er mwyn sicrhau gosod clymblaid genedlaetholgar yn ei lle yn Y Cynulliad er mwyn cael gwared ar y pleidiau prydeinig hyn unwaith ac am byth.


Why do we tolerate Wales’s British political parties putting another country’s interests first?

IN this article, Ein GWLAD editor Aled Gwyn Job discusses the  Welsh Assembly’s decision this week to repeal its own Continuity Bill.

The British Political parties in Wales, Labour, Conservatives and UKIP all voted to repeal a law they passed in the Assembly earlier this year. The Continuity Bill would have ensured that 24 policy areas returned after the UK leaves the EU in March 2019 would have been retained in Wales. Incredibly- by 40 vote to 8- they have decided to repeal a law they passed themselves!

Now, these areas have been handed on a plate to Westminster to do whatever they wish in these policy areas(whatever any Welsh Government opposition may arise) for 7 years as part of the EU Withdrawal Bill.

In view of the traditional contempt that Westminster has towards Wales, and the recent very public snubs such as refusing to support the Swansea Tidal Lagoon, the refusal to electrify the railway to Swansea, and a senior Westminster politician stating that Wales should be grateful for England’s “largesse”: it seems incredible that the Welsh Government has decided to entrust in Westminster’s goodwill in such a naïve and servile manner. Especially now in view of the complete clusterfuck that passes for government in London at present with everyone at each other’s throats, the two main parties embroiled in vicious internal warfare, a sinking Prime Minister  and everyone knowing full well that something’s got to give very soon…

But then, we must always remember that Welsh Labour’s  overriding commitment is not to Wales the nation at all. It’s to the Labour Party. Always the Labour Party. Forever The Labour Party.  And with Jeremy Corbyn eyeing a snap election, and dreaming of reviving an antiquated “Command State Economy” to run the whole of Britain from London:  eLabour HQ could not countenance any threat of Wales straying from this master plan.

Ein GWLAD disagree with Plaid Cymru on many counts. We do not believe that their adherence to socialism is the way to create the prosperous and thriving country that we want Wales to become. We also oppose the authoritarian strain of thinking within Plaid and their emphasis on political correctness above freedom of expression, within and without the party. And of course, we believe that Plaid are now part of that tired old furniture that passes for government in Cardiff Bay.

But when we see Plaid standing up for the Welsh national interest, we will commend them and we will stand shoulder to shoulder with them.And they were most certainly standing up for Wales and its people in passing this Continuity Bill earlier this year and seeking to defend it at the Assembly this week.

The Welsh national movement has to box clever in preparing for the 2021 Assembly Election. There must be the greatest level of co-operation and understanding ever seen here in place by then so that this can be the election where the British political parties are sent packing.

Leave a Reply